Croeso i Lanidloes; tref fach yng Nghanolbarth Cymru.
Llani yw un o drefi marchnad fendigedig y Canolbarth, ac yn gorwedd ymysg llethrau dwyreiniol Mynyddoedd Cambria. Dyma'r dref gyntaf ar lannau Hafren, ac wrth gwrs, maddeuwch y rhagfarn leol, y dref fwyaf pert - lle delfrydol felly i gymryd seibiant; boed hynny am ychydig ddyddiau, wythnos neu bythefnos. Ond gwyliwch, ar ôl bod yma unwaith, efallai na fyddwch fyth am adael.
Lle hawdd ei gyrraedd yw Llani (mae'r dref o fewn dwy awr mewn car o Lerpwl, Manceinion, Birmingham, Bryste a Chaerdydd, a rhwydwaith y rheilffordd genedlaethol gerllaw), ond eto fyth, mae'n bell bell i fwrdd o'r gofidion bob dydd sydd mor amlwg ym mywyd cyfoes. Felly ymlaciwch, anadlwch yr awyr iachus, a mwynhewch y bryniau gwyrddion sydd yn rhan o dirwedd naturiol a chyfrinachol Cymru.
Mae gwefan Llanidloes yn cynnwys rhwydwaith o dudalennau a luniwyd gan fusnesau, clybiau a chymdeithasau sydd yn helpu gwneud y dref a'r ardal mor arbennig a gwefreiddiol i drigolion ac ymwelwyr. Cewch amrywiaeth o wybodaeth, o hanes lleol a disgrifiadau o'n hamgylchedd, rhestrau o'r holl lety sydd ar gael, o fewn y dref ei hun ac yn yr ardaloedd cyfagos, ynghþd â manylion am bethau i'w gweld a'u gwneud yn ystod eich amser yma. Fe fydd Tudalennau Map Arbennig yn cysylltu'r wybodaeth ar feysydd diddordeb neilltuol, ac yn eich tywys ar deithiau cerdded rhithwir, tra bydd y Dudalen Ddigwyddiadau yn rhoi gwybodaeth i chi am bob peth sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn, yn y dref ac yn y Canolbarth. Fe fydd y Bwrdd Bwletin yn rhoi hysbys am gyfarfodydd a digwyddiadau lleol yn ogystal â newyddion am bopeth sy'n digwydd yn lleol.