Mae'r llwybr i darddle Afon Hafren yn cychwyn wrth faes parcio a man picnic Rhydybenwch. Gan fod y llwybr yn dringo'n serth dros dir garw a gwlyb, gan ddringo cyfanswm o 300 metr uwchben y maes parcio (ac yna 100m eto i gyrraedd copa Pen Pumlumon), byddech yn ddoeth i wisgo sgidiau cerdded cryf, ac i fynd â siwmper a chôt wrth-ddwr gyda chi. Gall y tywydd ar Bumlumon newid yn sydyn, felly mae'n syniad da gadael i ffrindiau wybod lle rydych yn mynd. Tynnwyd y lluniau yma yn ystod taith gerdded a drefnwyd gan yr Wyl Awyr Agored - fel arfer, ychydig iawn o bobl sydd ar y daith!